Yn yr adran hon fe welwch gyfres o fodiwlau eDdysgu, sy’n canolbwyntio ar ystod o gyflyrau niwrowahaniaeth. Mae’r modiwlau hyn wedi’u cyd-gynhyrchu gyda, ac yn cynnwys cyfraniadau fideo gan, bobl o fewn y gymuned niwrowahaniaeth.
Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda modiwlau newydd wrth iddynt gael eu datblygu.
Os hoffech gysylltu â ni, defnyddiwch y dudalen Cysylltwch â ni. I ddychwelyd i’r prif wefan, cliciwch yma.
Yn y modiwl hwn, ceir cyflwyniad i beth yw awtistiaeth, sut mae’n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd pobl awtistig, a chyngor ar bethau y gallwch eu gwneud i ddeall awtistiaeth yn well.
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y pethau y gallwch chi eu gwneud i ddeall y gwahaniaethau mewn ffyrdd o gyfathrebu, ffyrdd o gyfathrebu’n effeithiol a’r yr effaith y gall ffactorau amgylcheddol eu cael ar allu pobl awtistig i gyfathrebu.